Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (44) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13:30.
Gofynnwyd y 14 cwestiwn. Tynnwyd cwestiwn 10 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14:24.
3. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: y wybodaeth ddiweddaraf am Gyngor Sir Ynys Môn
Dechreuodd yr eitem am 14:38.
4. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Adroddiad Blynyddol Cyntaf Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd
Dechreuodd yr eitem am 15:00.
5. Dadl ar: Mae Addysgu’n Gwneud Gwahaniaeth
Dechreuodd yr eitem am 15.31
NDM4908 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth yn allweddol er mwyn trawsnewid perfformiad ysgolion, a
2. Yn croesawu’r camau a gymerwyd i gyflwyno Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol o’r hydref hwn ymlaen, a’r ffaith bod safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, gan gynnwys gofynion o ran llythrennedd a rhifedd, wedi’u cyflwyno, ynghyd â’r rheoliadau rheoli perfformiad newydd ar gyfer athrawon a phenaethiaid.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod
cyfraniad nifer o athrawon ac arweinwyr ysgol nodedig yng Nghymru
fel sbardun allweddol i weddnewid perfformiad ysgolion.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn:
Yn nodi â phryder yr asesiad yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Estyn bod "gostyngiad sylweddol" yn nifer yr enghreifftiau o addysgu ‘ardderchog’ neu ‘rhagorol’ a ganfuwyd.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â rheol Sefydlog 12.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym Mhwynt 2: Dileu ‘croesawu’r’ a rhoi ‘nodi’r’ yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
38 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwaith pellach ar adnabod a gwerthuso amrywiadau mewn safonau addysgu ledled Cymru a blaenoriaethu camau gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon yn unol â hynny.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
9 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod natur ddewisol y cymhwyster gradd Meistr yn golygu efallai na fydd anghenion hyfforddi’r holl athrawon newydd gymhwyso wedi cael sylw llawn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
13 |
38 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dilysu a monitro’r cymhwyster gradd Meistr yn cael ei wneud yn unol â’r safonau rhyngwladol uchaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
2 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
7 |
31 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4908 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn cydnabod cyfraniad nifer o athrawon ac arweinwyr ysgol nodedig yng Nghymru fel sbardun allweddol i weddnewid perfformiad ysgolion.
2. Yn nodi â phryder yr asesiad yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Estyn bod "gostyngiad sylweddol" yn nifer yr enghreifftiau o addysgu ‘ardderchog’ neu ‘rhagorol’ a ganfuwyd.
3. Yn croesawu’r camau a gymerwyd i gyflwyno Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol o’r hydref hwn ymlaen, a’r ffaith bod safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, gan gynnwys gofynion o ran llythrennedd a rhifedd, wedi’u cyflwyno, ynghyd â’r rheoliadau rheoli perfformiad newydd ar gyfer athrawon a phenaethiaid.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwaith pellach ar adnabod a gwerthuso amrywiadau mewn safonau addysgu ledled Cymru a blaenoriaethu camau gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon yn unol â hynny.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dilysu a monitro’r cymhwyster gradd Meistr yn cael ei wneud yn unol â’r safonau rhyngwladol uchaf.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6. Dadl ar: Hwyluso’r Drefn – ffordd newydd o reoleiddio yn y Diwydiant Amaeth
Dechreuodd yr eitem am 16.26
NDM4907 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi "Hwyluso’r Drefn – Adroddiad o argymhellion i
Lywodraeth Cymru ar well rheoleiddio ym maes
Ffermio”
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu ‘nodi’ a rhoi 'croesawu' yn ei le.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’n rheolaidd y wybodaeth ddiweddaraf am ei chynnydd at gyflawni pob un o’r 74 o argymhellion yn unol â’r amserlenni ym mharagraff 17.1 o’r Adroddiad.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod yr adroddiad yn cydnabod y “Dylid ystyried unrhyw beth yn llai na’r canlyniadau hyn yn fethiant oni bai bod polisïau wedi pennu bod canlyniad gwahanol yn ddymunol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
29 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
29 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi barn yr adroddiad bod Glastir wedi cael ei “gyflwyno’n rhy gynnar ac yn frysiog cyn bod cyfle i ddatblygu manylion polisi’r rhaglen yn iawn mewn partneriaeth go iawn gyda rhanddeiliaid.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
37 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4907 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu "Hwyluso’r Drefn – Adroddiad o argymhellion
i Lywodraeth Cymru ar well rheoleiddio ym maes
Ffermio”.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi’n rheolaidd y wybodaeth ddiweddaraf am ei chynnydd at gyflawni pob un o’r 74 o argymhellion yn unol â’r amserlenni ym mharagraff 17.1 o’r Adroddiad.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuoddy Cyfnod Pleidleisio am 17.12
Daeth y cyfarfod i ben am 17.15
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mercher, 8 Chwefror 2012